skip to content skip to main menu

Argyfwng tai yn curo ar ddrws cleifion canser yng Nghymru

Wednesday, 13 December 2006, Wales

Dengys ymchwil newydd a gyhoeddir heddiw bod 6% o bobl yn colli eu cartref ar ôl cael eu diagnosio â chanser a bod 18% yn cael anawsterau gyda’u taliadau morgais neu rhent, yn ôl yr elusen gofal canser flaenllaw Cymorth Canser Macmillan.

I’r rhai hynny sydd â chanser sy’n hunangyflogedig mae’r ffigwr yn uwch fyth gyda 11% yn colli eu cartref. Bob blwyddyn caiff tua 16,000 o bobl eu diagnosio â chanser yng Nghymru ac mae Macmillan wedi rhyddhau’r casgliadau ymchwil hyn mewn ymdrech i godi ymwybyddiaeth ynglyn â'r mater.

Dywedodd Cath Lindley, Rheolwr Cyffredinol Macmillan yng Nghymru: ‘Mae hyn yn arswydus. Ni ddylai cael canser olygu eich bod yn colli eich cartref. Caniatâ’r ffigurau hyn i ni amcangyfrif bod dros 2800 o bobl yng Nghymru yn brwydro i gadw to uwch eu pen bob blwyddyn a bod dros 900 o bobl wedi colli eu cartref.  Mae mwy o bobl yng Nghymru yn byw gyda chanser nag erioed o’r blaen ac felly byddai Macmillan yn hoffi gweld pob claf yn derbyn cyngor budd-daliadau arbenigol a chymorth ariannol ar ôl cael eu diagnosio â chanser’.

Cafodd Miss Lyn Jones, 59 oed, swyddog diogelwch o Gaerdydd, ei diagnosio â chanser ofarïaidd ar 6 Hydref 2004 ac aeth i mewn i’r ysbyty ar gyfer hysterectomi 20 diwrnod yn ddiweddarach. Dilynwyd hyn gan gemotherapi ac roedd Lynne o’i gwaith am bron flwyddyn - tan 5 Medi 2005. Heb ei siec cyflog pythefnosol cafodd ei gorfodi i fyw ar ei thâl salwch statudol ac ychydig o fudd-dal tai. Dyna pryd y sylweddolodd wir effaith ariannol ei diagnosis canser. Esboniodd Lyn: ‘Cyn gynted ag y cefais fy niagnosis fe es i’r swyddfa budd-daliadau, ond oherwydd fy mod yn dal i weithio dywedwyd wrthyf na allwn hawlio unrhyw beth heblaw tâl salwch statudol ac ychydig o fudd-dal tai. Roedd bod yn sâl gyda chanser ddim yn ddigon! Yn sicr doedd yr arian yr oeddwn yn ei dderbyn ddim yn ddigon. Ar ddiwedd y dydd nid dim ond talu i gael to uwch eich pen rydych chi’n ei wneud - mae’r holl dreuliau bob dydd yn tyfu, megis bwyd iach a dillad sy’n eich ffitio.'

Yn ystod ei thriniaeth roedd ty rhent Lyn yn cael ei adnewyddu. Roedd hynny’n tarfu ar ei hadferiad ac fe gafodd ei gorfodi i symud i dy arall oedd yn eiddo i’w ffrindiau. Esboniodd: ‘Roedd adeiladwyr yn y ty yn morthwylio drwy’r amser tra roeddwn i yn y gwely yn ceisio ymdopi â’r cemotherapi - doedd hi ddim yn ddelfrydol o bell ffordd. Yn ffodus roedd y ty hwn gan fy ffrindiau, ac oherwydd eu bod yn gwybod mai dim ond £2 oedd gennyf i fyw arno am ychydig ar ol talu’r rhent, doedden nhw ddim am i mi dalu’r rhent i gyd ar unwaith. Roeddwn hefyd yn ddigon ffodus i gael dau gymhorthdal Macmillan i'm cynorthwyo i dalu peth o’r rhent a rhai pethau eraill, megis gwresogi. Roedd y grantiau hyn yn achubiaeth bywyd a chefais gymorth gan ffrindiau a theulu hefyd.  Arhosais tan bod fy ngwallt wedi aildyfu ac yna ddychwelyd i'r gwaith. Yn fy wythnos gyntaf yn ol, gweithias 42 awr - roedd angen i mi weithio cymaint o oriau ag y gallwn er mwyn clirio fy miliau. Rwyf yn dal i wella heddiw, ond bum yn ffodus - yn ffodus iawn.’ 

Gall y sefyllfa fod yn waeth i rai - dengys ffigurau bod:

  • tua 28% o gleifion canser sydd â phlant (o dan 18 oed) yn cael anawsterau i gynnal eu taliadau o gymharu â 15% o’r rhai hynny sydd heb blant
  • mae 25% o bobl rhwng 35-44 oed yn cael problem gydag ad-daliadau o gymharu â 6% o’r rhai hynny sydd dros 65 mlwydd oed.

‘Mae’r ffigurau hyn yn wirioneddol ysgytwol. Mae llawer o bobl yn wynebu gwasgfa ariannol ddifrifol ar adeg pan maent yn ymdopi â chanser - yn benthyg arian, symud i fyw gyda theulu, gwerthu neu symud i geisio cael dau ben llinyn ynghyd. Mae rhai hyd yn oed yn wynebu adfeddiant’.  Yn ol Cath Lindley, ‘Mae Macmillan yn codi ymwybyddiaeth ynglyn a'r sefyllfa ariannol ddifrifol hon er mwyn ceisio cynorthwyo i atal rhagor o gleifion canser rhag cyrraedd y pwynt argyfyngus hwn.’

Ar ôl diagnosis canser bydd pobl yn aml yn wynebu gostyngiad mewn incwm, neu yn ei golli yn gyfan gwbl, ar yr un adeg ag y byddant yn wynebu nifer o gostau ychwanegol yn cynnwys costau presgripsiwn, costau parcio ysbyty, dietau arbennig neu gostau tanwydd uchel. Gall y wasgfa ariannol hon arwain at i bobl gael anawsterau neu fynd i ddyled gyda’u taliadau rhent neu forgais.

Er mwyn cynorthwyo i roi cyhoeddusrwydd i’r cymorth ariannol sydd ar gael caiff ymgyrch 'Curo'r Drws' (Hitting Home) Macmillan ei lansio gydag ymgyrch ymwybyddiaeth fawr DU-eang fydd yn defnyddio hysbysebion ar y radio, taflenni a phosteri cynghori cleifion mewn ysbytai, llyfrgelloedd a Chanolfannau Gwybodaeth Macmillan, a phosteri ymgyrchu mewn ffenestri gwerthwyr tai. Er mwyn cael gwybod am y cymorth ariannol sydd ar gael, gall pobl yr effeithir arnynt gan ganser ffonio Llinell ymgyrch Macmillan am ddim ar 800 500 800 neu fynd i www.macmillan.org.uk/abetterdeal

Mae Macmillan hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Shelter, elusen tai genedlaethol fwyaf y DU. Caiff pobl sy’n ffonio llinell ymgyrch Macmillan mewn argyfwng eu trosglwyddo i linell gymorth cyngor ar dai genedlaethol Shelter ar gyfer cael cymorth. Dywed John Puzey, Cyfarwyddwr Shelter Cymru, ‘Bob blwyddyn bydd Shelter Cymru yn cynorthwyo miloedd o bobl sy’n wynebu colli eu cartref a hynny heb ddim un bai arnynt hwy eu hunain. Dylai unrhyw un sy’n cael problemau gyda thai geisio cyngor cynnar drwy gysylltu gyda gwasanaeth cyngor tai Shelter Cymru yn eu hardal. Fel y dengys Macmillan, gall canser fod yn ddigon drwg i bobl heb y straen ychwanegol o golli eu cartref.’

Mae Macmillan hefyd yn annog y cyhoedd i gefnogi’r ymgyrch Curo'r Drws (Hitting Home) drwy ‘weithredu’ ac e-bostio eu papur lleol drwy wefan Macmillanwww.macmillan.org.uk/abetterdeal  i gofrestru eu pryder a chodi ymwybyddiaeth ynglyn a'r cymorth ariannol sydd ar gael.


DIWEDD

Am ragor o wybodaeth, lluniau a MANYLION CYSWLLT AR GYFER ASTUDIAETHAU ACHOS  cysylltwch â Swyddfa’r Wasg Cymru Macmillan ar 01656 867 973 / 07793 579375 neu e-bostiwchcthomas@macmillan.org.uk

Rhestr Wirio Curo'r Drws Macmillan
1) Siaradwch â’ch benthyciwr morgais ac esboniwch - efallai y gallwch drosglwyddo i forgais llog yn unig, gohirio taliadau neu gymryd  ‘seibiant’ morgais. Neu siaradwch â’ch landlord ac egluro’ch sefyllfa.
2) Gwiriwch eich polisïau yswiriant. Efallai y cewch ei fod yn darparu i gwrdd â’ch rhent neu forgais.
3) Efallai bod hawl gennych i hawlio budd-daliadau megis lwfans byw i'r anabl, cymhorthdal incwm neu fudd-dal treth tai. Ffoniwch linell ymgyrchu Macmillan ar 0800 500 800 i gael gwybodaeth am asiantaethau budd-daliadau yn eich ardal neu i archebu copi am ddim o ‘Help Gyda Chost Canser.’


Nodiadau i Olygyddion
1.Ymchwil Macmillan - cynhaliwyd gan OLR (Opinion Leader Research) a gyfwelodd 1,751 o bobl. Yn dilyn eu cyfweliad cysylltwyd â phob un i roi manylion iddynt ynglyn a ble i fynd i gael cyngor ariannol ac emosiynol.

2.Partneriaeth gydag elusen Shelter - caiff pobl sy’n ffonio llinell ymgyrch Macmillan mewn argyfwng eu trosglwyddo i linell gymorth Shelter ar gyfer cyngor. Bob blwyddyn mae Shelter yn cynorthwyo dros 170,000 o bobl i frwydro dros eu hawliau, i godi ar eu traed unwaith eto ac i ddod o hyd i a chadw'u cartref. Cysylltwch â Helen Bird ar 0207 505 2162 neuhelen_bird@shelter.org.ukAr gyfer gwybodaeth pellach am Shelter Cymru cysylltwch â Liz Derrick ar 01792 483 072 / 07971 828 490 neulizd@sheltercymru.org.uk

3.Mae Cymorth Canser Macmillan, elusen gofal canser flaenaf y DU, yn gwella bywydau pobl yr effeithir arnynt gan ganser, gan ddarparu cefnogaeth ymarferol, emosiynol ac ariannol.