skip to content skip to main menu

Macmillan yn Ne-ddwyrain Cymru

Rydym yn gwella bywydau pobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser yn lleol. Rydym yn darparu cymorth ymarferol, meddygol, emosiynol ac ariannol ac yn anelu at sicrhau gwell gofal canser. Mae canser yn effeithio ar bawb. Gall pawb helpu. Ni yw Macmillan yn Ne-ddwyrain Cymru.
Map of South East Wales


How to reach us

Cymorth Canser Macmillan
Swyddfa Codi Arian De-ddwyrain Cymru
Llawr 1af
1 Ffordd Oldfield
Pen-coed
Pen-y-bont ar Ogwr
CF35 5LJ
Ffôn: 01656 867 968
Ffacs: 01656 867 978
E-bost: lcole@macmillan.org.uk


Local events

  • Diamonds and Pearls Charity Ball Thursday, 27 November 2008
    Come and join us for a fantastic evening of entertainment at our Christmas Diamonds and Pearls Ball, at The Vale Golf and Spa Hotel, Hensol, Vale of Glamorgan.



Aelodau eich tîm Codi Arian yw:
Liz Cole - Rheolwr Codi Arian, Sue Pickin - Gweithiwr Codi Arian Cymunedol ac Allie Essery a Paula Langston - Cynorthwywyr Codi Arian.

Mae hefyd naw phwyllgor a grwp codi arian gwirfoddol ledled De-ddwyrain Cymru sy'n helpu i godi arian hanfodol i gefnogi pobl leol sy'n cael eu heffeithio gan ganser.

  • Mae dros 7,000 o bobl yn Ne-ddwyrain Cymru yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn. Mae pob un angen triniaeth a chymorth y mae Macmillan yn eu darparu drwy:
  • Arbenigwyr Iechyd: Caiff pobl yn Ne-ddwyrain Cymru fudd o gymorth gan 43  o weithwyr iechyd proffesiynol Macmillan sy'n cynnwys Nyrsys Macmillan, Hwyluswyr Meddygon Teulu, Fferyllwyr, Ymgynghorwyr Budd-daliadau a Radiograffyddion arbenigol.
  • Rhywun i siarad â hwy: Mae Macmillan yno i bobl â chanser, eu teuluoedd a'u ffrindiau, i siarad, gwrando a deall beth maent yn mynd drwyddo. Mae Macmillan yn cefnogi rhwydwaith o nifer o grwpiau hunangymorth a grwpiau cefnogi ledled De-ddwyrain Cymru. 
  • Cymorth Ariannol: Gall canser ddod â chostau ychwanegol yn ei sgîl - costau parcio yn yr ysbyty, costau teithio, gwresogi ychwanegol a dillad gwahanol. Gwnaethom roi tua £190,000 ar ffurf grantiau Macmillan i bobl yn Ne-ddwyrain Cymru y llynedd, er mwyn helpu gyda rhai o'r costau hyn. 
  • Gwybodaeth Glir: Mae cael y wybodaeth gywir am ganser ar yr amser cywir yn hanfodol. Mae Llinell Gymorth Canser Macmillan yn rhoi gwybodaeth a chefnogaeth emosiynol am ddim i bobl sy'n byw gyda chanser. Mae gwybodaeth hefyd ar gael gan weithwyr proffesiynol iechyd Macmillan a Llinell Ieuenctid Macmillan i bobl rhwng 12 a 21 oed.

Darperir ein holl wasanaethau am ddim, a chânt eu hariannu yn gyfan gwbl drwy haelioni ein cefnogwyr. Eleni bydd angen i ni godi £650,000 yn Ne-ddwyrain Cymru, i sicrhau y gallwn barhau i ddatblygu gwasanaeth lleol, sy'n cynnwys:

Ardal Gwent:

  • Nyrs Canser yr Ysgyfaint Arbenigol yn Ysbyty Nevill Hall, Y Fenni
  • Nyrs Gofal Lliniarol Arbenigol yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd
  • Nyrs Hemotoleg Clinigol Arbenigol yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd

Merthyr Tudful a Chwm Cynon

Mae'r arian a godwyd yn flaenorol gan ein cefnogwyr ar gyfer Uned Oncoleg newydd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn dal i gael ei neilltuo ar gyfer y prosiect hwn. Er y bu oedi, mae'r prosiect yn mynd yn ei flaen yn dda a dylai ddechrau yn nes ymlaen eleni. Byddwn hefyd yn cyflwyno gwasanaethau newydd yn 2008 fydd yn cynnwys:

  • Nyrs Gofal y Fron newydd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl
  • Fferyllydd newydd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl
  • Ymgynghorydd Budd-daliadau Lles Macmillan ym Merthyr Tudful. Cyflwynwyd dau Ymgynghorydd Budd-daliadau Lles yn Nhonypandy ac Aberpennar y llynedd i helpu i sicrhau cymorth ariannol gwell i bobl sy'n byw gyda chanser.
  • Gweithiwr Cymdeithasol Macmillan ar gyfer yr ardal.
  • Therapydd Galwedigaethol, yn Ysbyty'r Tywysog Siarl
  • Y llynedd gwnaethom hefyd roi grantiau i Gymorth Canser Merthyr tuag at ddodrefnu eu canolfan newydd.

Pen-y-bont ar Ogwr

  • Gweithiwr Cymdeithasol wedi'i leoli yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Seicolegydd Clinigol yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr

Caerdydd a Bro Morgannwg

  • Ymgynghorydd Gwybodaeth ar gyfer Canolfan Gofalwyr Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol, Caerdydd

Mae Pedair Ffordd y gallwch helpu

  • Drwy roi arian: Mae pob rhodd, yn fawr neu'n fach, yn gwneud gwahaniaeth hanfodol i bobl sy'n byw gyda chanser. Gallwch anfon rhoddion i'r cyfeiriad uchod, rhoi arian ar-lein, trefnu taliad rheolaidd neu adael rhodd i ni yn eich ewyllys.
  • Drwy drefnu casgliad neu ddigwyddiad: Gallech ddefnyddio eich hobi neu ddigwyddiad gyda'ch ffrindiau i godi arian ar gyfer Macmillan. Beth am osod her i chi eich hun a sicrhau nawdd? Beth am ein dewis ni fel eich elusen yn y gwaith neu yn yr ysgol? Gallwn eich helpu i drefnu eich hun drwy gynnig cyngor neu argraffu tocynnau, posteri neu ffurflenni noddi. Ffoniwch ni neu anfonwch e-bost atom gydag unrhyw ymholiadau a allai fod gennych. 
  • Drwy ymuno â digwyddiad Macmillan: P'un a fyddwch yn cymryd rhan un o'n teithiau cerdded neu Fore Coffi Mwya'r Byd, mae digwyddiad Macmillan ar eich cyfer! A byddai'n bleser gennym eich cefnogi chi.
  • Drwy rannu eich sgiliau: A allech roi o'ch amser i'n helpu? Byddem yn falch iawn o gael eich help gyda digwyddiadau, casgliadau a help gweinyddol yn y swyddfa. Efallai yr hoffech chi ymuno â phwyllgor neu grwp codi arian lleol yn eich ardal neu sefydlu un gyda ffrindiau, teulu neu gydweithwyr. Ffoniwch ni neu anfonwch e-bost atom i drafod cyfleoedd.