skip to content skip to main menu

Macmillan yn Ne-orllewin Cymru

Rydym yn gwella bywydau pobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser yn lleol. Rydym yn darparu cymorth ymarferol, meddygol, emosiynol ac ariannol ac yn anelu at sicrhau gwell gofal canser. Mae canser yn effeithio ar bawb. Gall pawb helpu. Ni yw Macmillan yn Ne-orllewin Cymru.
Map of South West Wales


How to reach us

Cymorth Canser Macmillan
Swyddfa Codi Arian De-orllewin Cymru
Ysbyty Gorseinon
Ffordd Brynawel
Abertawe
SA4 4UU
Ffôn: 01792 540079
Ffacs: 01792 540079
E-bost: South&WestWales@macmillan.org.uk


Local events

  • Aberystwyth 10K run Sunday, 14 December 2008
    This will be the 10th year for this prestigious road race. We would like to make it bigger and better than ever before.
  • Pembrokeshire Dawn Walk 2009 Sunday, 17 May 2009
    Join Macmillan Cancer Support and secure your place for the 2009 Pembrokeshire Dawn Walk.



Aelodau eich tîm Codi Arian yw:
Kathryn Morgan/Jo Greenslade – Rheolwyr Codi Arian
Joy Waters – Cynorthwy-ydd Codi Arian

Mae hefyd pwyllgorau a grwpiau codi arian gwirfoddol yn Llansawel a Chastell-nedd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Glyn-nedd a'r Cylch, Arberth, Penfro a'r Cylch, Port Talbot a'r Cylch, Saundersfoot, Dinbych-y-pysgod a'r Cylch, Abertawe yn ogystal â Grwp Cenhinen Bedr gweithredol, gyda phob un yn helpu i godi arian hanfodol i gefnogi pobl leol sy'n cael eu heffeithio gan ganser a'u teuluoedd.

Mae mwy a mwy o bobl yn Ne a Gorllewin Cymru yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn. Mae pob un angen triniaeth a chymorth y mae Macmillan yn eu darparu drwy:

  • Arbenigwyr Iechyd: Mae pobl yn Ne a Gorllewin Cymru eisoes yn cael budd o weithwyr proffesiynol iechyd Macmillan sy'n cynnwys Nyrsys Cymunedol Macmillan, Hwyluswyr Meddygon Teulu ac Arbenigwyr Lymffodema.
  • Rhywun i siarad â hwy: Mae Macmillan yno i bobl â chanser, eu teuluoedd a'u ffrindiau, i siarad, gwrando a deall beth maent yn mynd drwyddo. Mae Macmillan yn cefnogi rhwydwaith o nifer o grwpiau hunangymorth a chefnogi ledled De a Gorllewin Cymru. 
  • Cymorth Ariannol: Gall canser ddod â chostau ychwanegol yn ei sgîl - costau parcio yn yr ysbyty, costau teithio, gwresogi ychwanegol a dillad gwahanol. Gwnaethom roi bron i £89,000 ar ffurf grantiau Macmillan yn Ne a Gorllewin Cymru y llynedd, er mwyn helpu gyda rhai o'r costau hyn. 
  • Gwybodaeth Glir: Mae cael y wybodaeth gywir am ganser ar yr amser cywir yn hanfodol. Mae Llinell Gymorth Canser Macmillan yn rhoi gwybodaeth a chefnogaeth emosiynol am ddim i bobl sy'n byw gyda chanser. Mae gwybodaeth hefyd ar gael gan weithwyr proffesiynol iechyd Macmillan a Llinell Ieuenctid Macmillan i bobl rhwng 12 a 21 oed.
  • Darperir ein holl wasanaethau am ddim, a chânt eu hariannu yn gyfan gwbl drwy haelioni ein cefnogwyr. I sicrhau y gall Macmillan barhau i gefnogi a helpu pobl leol sy'n cael eu heffeithio gan ganser, mae angen eich help arnom!

Mae Pedair Ffordd y gallwch helpu

  • Drwy roi arian: Mae pob rhodd, yn fawr neu'n fach, yn gwneud gwahaniaeth hanfodol i bobl sy'n byw gyda chanser. Gallwch anfon rhoddion i'r cyfeiriad uchod, rhoi arian ar-lein, trefnu taliad rheolaidd neu adael rhodd i ni yn eich ewyllys.
  • Drwy drefnu casgliad neu ddigwyddiad: Gallech ddefnyddio eich hobi neu ddigwyddiad gyda'ch ffrindiau i godi arian ar gyfer Macmillan. Beth am osod her i chi eich hun a sicrhau nawdd. Beth am ein dewis ni fel eich elusen yn y gwaith neu yn yr ysgol. Gallwn eich helpu i drefnu eich hun drwy gynnig cyngor neu argraffu tocynnau, posteri neu ffurflenni noddi. Ffoniwch ni neu anfonwch e-bost atom gydag unrhyw ymholiadau a allai fod gennych.
  • Drwy ymuno â digwyddiad Macmillan: P'un a fyddwch yn cymryd rhan yn ein digwyddiadau lleol, teithiau cerdded neu Fore Coffi Mwya'r Byd, mae digwyddiad Macmillan ar eich cyfer chi! A byddai'n bleser gennym eich cefnogi chi.
  • Drwy rannu eich sgiliau: A allech roi o'ch amser i'n helpu? Byddem yn falch iawn o gael eich help gyda digwyddiadau a chasgliadau. Efallai yr hoffech chi ymuno â phwyllgor neu grwp codi arian lleol yn eich ardal neu sefydlu un gyda ffrindiau, teulu neu gydweithwyr. Ffoniwch ni neu anfonwch e-bost atom i drafod cyfleoedd.